Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023
Amser:
09.10 -
09.40
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 24 Ionawr –
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd mewn gofal sylfaenol a chymunedol (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud) wedi’i ohirio o 17 Ionawr
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y newidiadau a ganlyn i fusnes ar yr amserlen:
Dydd Mawrth 31 Ionawr –
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud) Symudwyd o 1 Chwefror
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) Symudwyd o 1 Chwefror
· Cwestiynau Amserol (20 munud) Symudwyd o 1 Chwefror
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) (15 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud yr ychwanegiadau a ganlyn i'r amserlen:
Dydd Mercher 1 Chwefror –
Dydd Mercher 8 Chwefror 2023 –
3.4 Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 25 Ionawr:
Rhun ap Iorwerth
NNDM8155
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig am Fil ar leihau ôl-troed carbon digidol
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) ymateb i’r angen i fod yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ddigidol yng Nghymru, fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd net sero, yn benodol o ran defnydd ynni i redeg platfformau digidol;
b) cynnwys strategaeth i ymdrin â data sy’n cael ei greu, eu gadw a’i brosesu mewn ffordd fwy effeithlon o ran defnydd ynni;
c) gosod targedau ar gyfer sicrhau bod canolfannau data yn rhedeg yn y modd mwyaf effeithlon, yn cynnwys drwy ddefnyddio ffynhonnellau ynni adnewyddadwy, a thrwy hynny gefnogi datblygu sector data gwyrdd yng Nghymru;
d) sicrhau bod cynaliadwyedd yn sail i bob penderfyniad a wneir wrth ymdrin â data gan gyrff cyhoeddus;
e) annog arloesi yn ddigidol i helpu i dad-garboneiddio ac i gyrraedd amcanion net sero cenedlaethol.
4 Deddfwriaeth
4.1 Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
Nododd y Pwyllgor Busnes bryderon Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch yr amserlenni ar gyfer craffu ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) oherwydd cafodd y Memorandwm ei osod yn hwyr.
Cadarnhaodd y Trefnydd y byddai’n ymateb i lythyr y Pwyllgor Busnes ar y mater hwn, ac y byddai’n anfon copi o’r ymateb hwnnw at y pwyllgorau.
5 Pwyllgorau
5.1 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch ymweliad y pwyllgor sydd ar y gweill
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais i Aelodau’r Pwyllgor gael eu hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn ar 26 Ebrill 2023, a chytunwyd arno.
6 Unrhyw faterion eraill
Gweithredu diwydiannol ar 1 Chwefror
Bu’r Pwyllgor Busnes yn trafod yr effaith ar fusnes y Senedd yn sgil gweithredu diwydiannol a drefnwyd gan aelodau Undeb PCS ar gyfer dydd Mercher 1 Chwefror.
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.5(iv), pleidleisiodd mwyafrif y Pwyllgor i symud busnes y Cyfarfod Llawn a amserlennwyd yn flaenorol ar gyfer 1 Chwefror, gyda'r effaith na fyddai Cyfarfod Llawn yn cael ei gynnal ar y diwrnod hwnnw. Fe bleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn aildrefnu busnes o 1 Chwefror.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i symud y Cwestiynau Amserol a’r Cwestiynau i Weinidog yr Economi a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i 31 Ionawr, ac i aildrefnu'r Ddadl Aelodau, dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yr Amser a ddyrannwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Ddadl Fer ar gyfer dydd Mercher 8 Chwefror. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu dwy Ddadl Fer ar 15 Chwefror.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i symud y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar i'w hateb ar 31 Ionawr i ddydd Mawrth 24 Ionawr, ac i symud y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar a chynigion i'w trafod ar 8 Chwefror i ddydd Mawrth 31 Ionawr.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y gallai’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai gynnal eu cyfarfodydd fore Mawrth 31 Ionawr yn lle’r cyfarfodydd sydd ar yr amserlen ar gyfer 1 Chwefror.
Adolygiad o’r darpariaethau ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy
Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau y bydd yr arolwg i lywio’r adolygiad presennol o’r darpariaethau ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy yn cau am ganol dydd, dydd Gwener 20 Ionawr.